Mae RBS yn bwriadu cael gwared a 600 o swyddi a chau 32 cangen, Yn ôl yr undeb llafur, Unite.

Bydd y cyhoeddiad yn effeithio swyddi yn yr adran fancio manwerthu, gyda disgwyl i 200 o’r swyddi gael eu torri ar draws Llundain a’r De Ddwyrain ynghyd â thua 400 yng Nghanolbarth, Dwyrain a Gogledd Lloegr.

Yn ôl yr undeb llafur, Unite bydd 32 cangen o’r RBS yn cau, a bydd nifer o ganghennau eraill yn gweld eu horiau agor yn lleihau hefyd.

Mae’r Llywodraeth yn dal  i fod yn berchen ar 73% o RBS ac, yn 2015, fe gyhoeddodd y banc ei  wythfed flynedd o golledion blynyddol, gyda diffyg o £2 biliwn.

Mae’r cyhoeddiad diweddaraf heddiw yn golygu fod RBS wedi cael gwared a 1,500 o swyddi ar draws y DU eleni.

“Gyda swyddi’n cael eu torri ar draws y wlad a changhennau ar lai o oriau, does dim amheuaeth y bydd y toriadau diweddara’ hyn yn niweidiol i gwsmeriaid y banciau a’n haelodau ni,” meddai Lyn Turner, llefarydd ar ran Unite.

Mae disgwyl hefyd i 94 cangen ychwanegol weld eu horiau’n lleihau – wrth i fwy o bobol droi at fancio ar-lein.

Nid oedd RBS ar gael i wneud datganiad ar y mater.