Bydd cronfa newydd gwerth £25 miliwn gan Lywodraeth Cymru yn darparu’r cyllid sydd ei angen ar reolwyr a thimau rheoli yng Nghymru i brynu busnesau bach a chanolig fydd eu perchenogion presennol yn ymddeol neu’n gwerthu.

Nod Cronfa Olyniaeth Rheoli Cymru, sy’n cael ei lansio heddiw gan Weinidog yr Economi Edwina Hart, yw helpu 20 o fusnesau bach a chanolig i greu, a diogelu, dros 1,000 o swyddi o dan berchenogaeth newydd.

Bydd y gronfa newydd, a reolir gan Cyllid Cymru, yn cynnig gwerth rhwng £500,000 a £3 miliwn o fuddsoddiadau.

Meddai’r Edwina Hart: “Mae gan fusnesau bach a chanolig sefydledig weithluoedd ffyddlon a medrus, ac maent yn gwneud cyfraniad sylweddol at economi Cymru. Yn aml, maent wedi masnachu’n llwyddiannus am lawer o flynyddoedd, ac mae ganddynt y potensial i gyflawni llwyddiant pellach yn y dyfodol.

“Gyda nifer cynyddol o berchenogion busnes yng Nghymru yn bwriadu ymddeol neu werthu eu busnesau, bydd Cronfa Olyniaeth Rheoli Cymru yn darparu’r cyllid sydd ei angen ar ddarpar berchenogion newydd i brynu’r busnesau cynhenid hyn a’u harwain at lwyddiant pellach.”