Fe fydd arweinwyr undeb yn cyfarfod yn Llundain heddiw i drafod yr argyfwng yn y diwydiant dur wrth i ymdrechion barhau i arbed miloedd o swyddi.

Ac wedi i Aelodau’r Cynulliad ddychwelyd i Fae Caerdydd heddiw ar gyfer cyfarfod brys i drafod y diwydiant dur, bydd Carwyn Jones yn teithio i Lundain yfory i gynnal trafodaethau gyda David Cameron.

Daw hyn wedi i gwmni dur Tata gyhoeddi’r wythnos diwethaf y byddan nhw’n gwerthu eu safleoedd ym Mhrydain, gan olygu y byddai miloedd o swyddi yng Nghymru yn y fantol ac, yn bennaf, ym Mhort Talbot.

Greybull yn llygadu Scunthorpe…

Daw’r cyfarfod yng nghanol adroddiadau fod Marc a Nathaniel Meyohas, y brodyr tu ôl i’r cwmni buddsoddi Greybull, yn ystyried prynu gwaith dur Scunthorpe.

Dywedodd y Daily Telegraph bod yn barod i fuddsoddi £400 miliwn yno gan arbed tua 9,000 o swyddi.

Mae adroddiadau ar led hefyd bod Llywodraeth Prydain mewn trafodaethau gyda chwmnïau fyddai’n ystyried prynu rhai o’r safleoedd dur ym Mhrydain, gan gynnwys gwaith dur Port Talbot.

Lleihau costau ynni

Mae’r Ysgrifennydd Busnes Sajid Javid wedi dweud eu bod yn gweithio ar gynlluniau i leihau costau ynni a chymryd cyfrifoldeb o rai cyfrifioldebau pensiynau mewn ymdrech i ddenu prynwr ar gyfer y gweithfeydd.

Er nad yw’n credu mai gwladoli yw’r ateb, mae wedi dweud ei fod yn ystyried pob opsiwn ar hyn o bryd.

Cyn y cyfarfod heddiw, dywedodd Tony Burke o undeb Unite: “Ar ôl ychydig ddyddiau cythryblus, dyma’r tro cyntaf i gynrychiolwyr o’r holl undebau dur ddod at ei gilydd i drafod yr argyfwng diwydiannol sy’n wynebu’r diwydiant.

“Mae’r diffyg ymddangosiadol o frys gan Sajid Javid ac absenoldeb cynllun clir gan y Llywodraeth yn bryder i’r degau o filoedd sydd a’u bywoliaeth yn y fantol ac i 140,000 o bensiynwyr Dur Prydain.

Moment allweddol 

Meddai Roy Rickhuss, arweinydd undeb Community: “Bydd y cyfarfod hwn yn foment allweddol yn ein hymgyrch.

“Erbyn hyn, nid oes unrhyw un yn tanamcangyfrif maint yr her sy’n ein hwynebu. Mae gennym diwydiant cyfan i’w arbed ond does dim llawer o amser i’w achub.

“Mae’n rhaid i ni hefyd sicrhau ein bod Tata yn werthwr cyfrifol ac yn anrhydeddu ei ddyletswyddau moesol a chymdeithasol i gymunedau dur yn y Deyrnas Unedig.”