Bydd papur newydd wythnosol newydd yn mynd ar werth am y tro cyntaf yfory gan greu saith o swyddi yng Ngheredigion.

Yn ol y perchnogion, cwmni Herald Newspapers Ccc, fe fydd rhifyn cyntaf y papur dwyieithog, Ceredigion Herald, yn mynd ar werth am 70 ceiniog gan fynd ben ben a’r Tivyside Advertiser a’r Cambrian News.

Bydd y papur newydd yn cael ei gyhoeddi yn Saesneg yn bennaf, ond bydd yn cynnwys tri neu bedwar tudalen Cymraeg, yn ogystal â llythyrau, colofnau cyfrannwr ac ysgrifau coffa yn y Gymraeg.

Ers 2013, mae Herald Newspapers wedi lansio tri papur newydd yng Nghymru – Pembrokeshire Herald, Carmarthenshire Herald a’r Llanelli Herald.

Bydd y Ceredigion Herald yn cwmpasu ardal o Aberystwyth yn y gogledd i Aberteifi yn y de.

Bydd y Ceredigion Herald yn gwneud print cychwynnol o 10,000 o gopïau, a geir ei dosbarthu gan Menzies a Smiths News I 200 o siopau ac archfarchnadoedd ar draws Sir Ceredigion ac ardaloedd cyfagos. Dywedodd Thomas Sinclair, cyfarwyddwr Herald Newspapers: “Dyw hi byth yn hawdd dod i mewn i sir a dechrau o’r newydd ond rydym wedi dangos ei bod yn bosib, a bod gan Yr Herald fformat effeithiol a llwyddiannus.

“Rydw i’n hollol obeithiol y bydd y papur yn cael derbyniad gystal a’r tri teitl arall yr ydym yn cyhoeddi.”