Bydd dros 580 o swyddi newydd yn dod i Gymru gyda chwmni MotoNovo Finance, gan fwy na dyblu’r gweithlu yn y brifddinas ar hyn o bryd.

Cafodd y cwmni, sy’n darparu cyllid ac yswiriant ar gyfer ceir, gymorth ariannol gwerth £3 miliwn gan Lywodraeth Cymru – y prosiect buddsoddi mwyaf yn y sector gwasanaethau ariannol a phroffesiynol yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol.

Dywedodd Gweinidog Economi Cymru, Edwina Hart, fod y cyhoeddiad yn dangos “hyder mawr” yng Nghymru, ac yn “arwydd clir” bod Cymru ar ei ffordd i fod yn “un o’r canolfannau mwyaf y tu allan i Lundain ar gyfer y sector ariannol.”

Ardal Fenter Caerdydd

Bydd y datblygiad newydd yn cael ei leoli yn yr Ardal Fenter newydd yng nghanol Caerdydd a bydd yn cyfrannu tua £18 miliwn o gostau cyflogau i economi De Cymru bob blwyddyn.

Erbyn 2021, bydd y cwmni MotoNovo Finance yn cyflogi dros 1,000 o bobol.

Mae’r cwmni wedi’i leoli yn Llanisien ar hyn o bryd ond mae’n bwriadu symud ei bencadlys i’r Ardal Fenter yng nghanol y ddinas, gan ddechrau recriwtio staff newydd yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

‘Prosiect strategol pwysig i Gymru’

“Mae hyn yn newyddion da ar gyfer Cymru, y sector ariannol a phroffesiynol ac Ardal Fenter Canol Caerdydd ond yn fwy na dim, mae’n newyddion da o ran y cyfleoedd gwaith y bydd yn eu creu,” meddai Edwina Hart AC.

“Mae’n fewnfuddsoddiad sylweddol a bydd yn codi proffil y sector hwn sy’n ffynnu ac yn ehangu’n gyflym yng Nghymru.

“Rydw i’n falch bod y cymorth a gafwyd gan Lywodraeth Cymru wedi bod o fudd i sicrhau’r prosiect buddsoddi hwn i  Gymru ynghyd â’r swyddi a ddaw yn ei sgil. Mae’n brosiect sy’n strategol bwysig i Gymru.”

Cafodd y cwmni ei sefydlu yng Nghaerdydd yn y 1970au, dan yr enw Carlyle Finance yn wreiddiol, ac mae Prif Swyddog Gweithredol MotoNovo Finance, Mark Standish, yn dweud ei fod wedi datblygu llawer ers hynny.

“Dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf, rydym yn awyddus i ehangu yn y sector hwn ac mewn sectorau ariannol eraill. Ein prif gryfder yw’r tîm o bobl sydd gennym yn MotoNovo,” meddai.

“Rydw i wedi arwain y busnes ers 16 mlynedd ac rydw i’n hynod falch o’r cwmni wrth imi gyhoeddi ein cynlluniau ar gyfer twf a buddsoddi. Rydw i hefyd yn cydnabod y cymorth sylweddol rydym wedi’i gael gan Lywodraeth Cymru er mwyn inni ddatblygu’n cynlluniau.”