Mae cwmni archfarchnad Morrisons wedi cyhoeddi gostyngiad yn ei elw blynyddol  wrth i’r gystadleuaeth yn y farchnad barhau.

Fe gyhoeddodd y cwmni elw o £242 miliwn, o’i gymharu â £345 miliwn flwyddyn yn ôl.

Daw’r cyhoeddiad ar ôl i’r cwmni gau nifer o’i archfarchnadoedd.

Ond fe fu gwelliant yng ngwerthiant Morrisons – gyda gostyngiad o 2% o’i gymharu â gostyngiad o 5.9% yn 2014.