(llun: PA)
Mae arolwg wedi canfod fod dau ran o dri o bobl ym Mhrydain yn mynd ar ‘detox’ credyd cyn ymgeisio am gerdyn credyd, benthyciad neu forgais, ond yn dychwelyd i’r hen arfer o wario ar blastig cyn gynted â bod eu cais wedi’i dderbyn.

Fe ddywedodd dros 60% o bobl a gafodd eu holi gan Gwmni AA Financial Services eu bod er mwyn gwella eu cyfle i gael eu derbyn am gynllun ariannol, eu bod yn rhoi gorau i arferion ariannol ‘gwael’ ymlaen llaw am gyfnod o chwe mis.

Y nod fyddai gwella eu sgôr credyd gyda asiantaethau credyd. Ond fe roedd bron i 45% yn dweud eu dychwelyd i’w arferion yn syth ar ôl i’w cais gael sêl bendith.

Dywedodd Michael Johnson, cyfarwyddwr Cwmni AA Financial Services, “Mae gwella eich arferion gwario yn syniad da, ond mae’n bwysig eich bod yn glynu at hynny yn yr hir dymor.”

Ychwanegpdd,”Os ydych yn chwilio am fenthyciad, cerdyn credyd, neu forgais, yna, fe ddylech sylweddoli fod eich arferion gwario yn cyfri.”