Mae pedwar cwmni o Gymru ymhlith y rhai ar y rhestr diweddara’ o’r rhai sydd wedi methu â thalu’r isafswm cyflog i weithwyr.
Maen nhw’n cynnwys cwmni gofal, gwersyll gwyliau, salon harddwch a busnes trin gwallt, sy’n nodweddiadol o’r math o fusnes ar y rhestr llawn.
Fe gafodd 90 o gwmnïau eu henwi trwy wledydd Prydain, gan gynnwys un cwmni o Lundain, Total Security Services, oedd wedi methu â thalu £1.7 miliwn o gyflogau dyledus.
Dyna’r ffigwr mwya’ ers i Lywodraeth Prydain ddechrau enwi’r tramgwyddwyr yn 2013.
‘Dim esgus’
“Does dim esgus tros beidio â thalu cyflogau dyledus i staff,” meddai’r Gweinidog Busnes, Nick Boles. “Mae ein polisi o enwi a chywilyddio cyflogwyr sy’n anwybyddu’r gyfraith yn golygu bod oblygiadau i’w henw da yn ogysta ag i’w waledi.”
Mae Cyngres yr Undebau Llafur hefyd wedi cefnogi’r arfer o enwi: “R’yn ni’n gwybod bod miloedd yn rhagor o gyflogwyr drwg yn twyllo’u staff ac yn osgoi cael eu dal,” meddai’r Ysgrifennydd Cyffredinol, Frances O’Grady.
Mae’r ffigurau diweddara’n golygu bod bron 500 o fusnesau bellach wedi eu henwi ac wedi wynebu cosbau o £1.1 miliwn.
Y cwmnïau Cymreig
Care One 2 One, Caerffili – wedi methu â thalu £2,441 i un gweithiwr.
Parc Gwyliau Bryn Owen ger Aberystwyth – wedi methu â thalu £1,184 i ddau o weithwyr.
Heaven Sent, Y Rhyl – wedi methu â thalu £1,165 i un gweithiwr.
Guys and Dolls, Treffynnon – wedi methu â thalu £781 i un gweithiwr.