Honnir fod cwmni ynni wedi talu £6 miliwn y flwyddyn i elusen Age UK yn gyfnewid am berswadio’r henoed i arwyddo cytundebau ynni drud.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Ynni Amber Rudd ei bod yn ystyried yr honiad bod pensiynwyr yn cael eu camarwain yn “ddifrifol iawn” ac ychwanegodd ei bod wedi cysylltu a’r corff rheoleiddio Ofgem i ymchwilio ymhellach.

Mae’r Comisiwn Elusennol yn ystyried “unrhyw weithredu a allai fod yn angenrheidiol” yn dilyn yr honiadau.

Cyfrifon

Yn ol papur newydd The Sun roedd wedi dod o hyd i fanylion taliadau cwmni E.ON i’r elusen yng nghyfrifon blynyddol Age UK.

Mae’n debyg fod yr elusen wedi bod yn argymell tariff arbennig gan E.ON mewn taflenni a llyfrynnau, gan ddweud ei fod yn “helpu i arbed ynni ac arian”.

Yn ol yr adroddiadau roedd Age UK wedi derbyn o leiaf £6 miliwn y flwyddyn gan E.ON, gan dderbyn tua £41 am bob person oedd wedi penderfynu arwyddo’r cytundeb.

Honnir bod y tariff, ar gyfartaledd, yn costio £245 yn fwy na tariff rataf E.ON.  Mae’n dod wedi i Age UK feirniadu’r chwe cwmni ynni mawr am godi gormod mor ddiweddar a mis Ionawr gan rybuddio bod mwy na 4.1 miliwn o bobl hŷn yn “bryderus” am gostau ynni uchel.

Mae E.ON wedi cadarnhau bod “perthynas masnachol” rhyngddo a’r elusen.

Mae llefarydd ar ran Age UK wedi gwrthod honiadau bod yr elusen wedi bod yn gwthio prisiau drud ar bensiynwyr.

Dywedodd llefarydd ar ran Ofgem y bydden nhw’n edrych ar yn ofalus ar yr honiadau.