Mae pryder dros swyddi yn ne Cymru heddiw ar ôl i gwmni ceir Ford gyhoeddi y bydd yn cael gwared a swyddi ledled Ewrop.

Swyddi marchnata, gwerthu a gwaith gweinyddol fydd yn cael eu heffeithio’n bennaf, gyda rhai o’r rhain ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Doedd Ford ddim yn gallu cadarnhau faint o swyddi allai gael eu heffeithio yng Nghymru ond dywedodd nad oes perygl i swyddi gweithwyr cynhyrchu ceir – mae tua 1,900 o’r rhain ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Daw’r cyhoeddiad wrth i’r cwmni geisio arbed £138m y flwyddyn, gyda’r “rhan fwyaf o swyddi” yn cael eu heffeithio yn yr Almaen.

Fe wnaeth Ford yn Ewrop elw yn 2015, am y tro cyntaf ers pedair blynedd, ond mae’r cyhoeddiad yn dod yn dilyn costau rheoliadol cynyddol , dywedodd y grŵp.

O’r 53,000 o bobol sy’n cael eu cyflogi gan Ford yn Ewrop, gyda thua 13,000 yn y DU, mae disgwyl i gannoedd o staff gael eu heffeithio ledled y DU a’r Almaen.