Mae Nwy Prydain yn bwriadu cael gwared a 500 o swyddi fel rhan o raglen effeithlonrwydd y cwmni.

Fe fydd y rhan fwyaf o’r swyddi yn mynd yn eu busnes sy’n ymwneud ag insiwleiddio cartrefi.

Mae undebau wedi ymateb yn chwyrn i’r cyhoeddiad.

Mae’r toriadau diweddaraf yn rhan o gynlluniau Centrica, perchennog Nwy Prydain, i gael gwared a 6,000 o swyddi a gyhoeddwyd yn yr haf y llynedd.

Dywed y grŵp bod yn rhaid bod yn gystadleuol mewn marchnad ynni “sy’n newid yn gyson.”

Dywedodd Mark Hodges prif weithredwr  gwasanaethau a chyflenwad ynni Nwy Prydain: “Rydym yn canolbwyntio ar wella effeithlonrwydd ein sefydliad i gwrdd â’r newidiadau yng ngofynion ein cwsmeriaid.

“Mae Nwy Prydain mewn sefyllfa dda ar gyfer twf y busnes ond mae’n rhaid i ni sicrhau bod ein costau yn ein caniatáu i fod yn gystadleuol ar gyfer ein cwsmeriaid.

“Rwy’n sylweddoli y bydd hyn yn newyddion anodd i’r staff sydd wedi’u heffeithio.”

Fe fydd proses ymgynghori gyda’r staff yn dechrau, meddai.