Mae cwmni BT wedi cyhoeddi heddiw y bydd 100 o swyddi newydd yn cael eu creu yn Abertawe wrth i’r cwmni ehangu.

Mae’r cwmni wedi ymrwymo i sicrhau fod mwy na 80% o alwadau cwsmeriaid yn cael eu hateb o fewn y DU erbyn 2016.

Golyga hyn y bydd 1,000 o swyddi newydd yn cael eu creu ledled y DU erbyn Ebrill 2017, ond Abertawe fydd y lleoliad cyntaf i fanteisio ar y cyhoeddiad.

Fe fydd y swyddi’n ymwneud â gwasanaethau cwsmeriaid, ac maen nhw’n ychwanegol at y 50 o ymgynghorwyr a gyflogwyd i’r safle yn Abertawe’n ddiweddar.

‘Ymrwymiad i Abertawe a Chymru’ 

“Bydd y swyddi parhaol newydd yn y tîm gofal cwsmer yn darparu cyfleoedd gyrfa gwerth chweil o fewn BT ac yn adlewyrchu’r gwaith da y mae ein tîm eisoes yn ei wneud yn Abertawe,” meddai Alwen Williams, cyfarwyddwr BT Cymru.

“Mae Abertawe’n chwarae rhan allweddol yn strategaeth BT o ran ei menter gofal cwsmeriaid ond hefyd wrth gyflwyno band eang cyflym – sy’n newyddion gwych i’r gymuned a’r economi leol.”

“Mae’n gyfnod cyffrous i’r diwydiant telathrebu ac mae’r cyhoeddiad yn atgyfnerthu’r gwerth y mae BT yn ei roi ar ofal cwsmeriaid a hefyd ein hymrwymiad i Abertawe a Chymru.”

‘Gwella’r gwasanaeth’

Fe fydd BT Defnyddwyr yn gwario £80miliwn yn ychwanegol dros y ddwy flynedd nesaf wrth ymrwymo i wella gwasanaeth cwsmeriaid gan roi hwb i berfformiad.

Mae’r cwmni hefyd yn buddsoddi mewn datblygu’r gwasanaeth ar-lein, ac yn lansio ap i alluogi cwsmeriaid i wirio eu biliau neu ddilyn cynnydd eu peiriannydd o’u dyfeisiau symudol.

“Fe fydd gennym 2,000 o swyddi llawn amser ychwanegol yn y DU erbyn diwedd y proses hwn, sy’n hwb arbennig i economi’r DU ac i nifer o ranbarthau lle rydyn ni eisoes yn gyflogwr pwysig,” meddai Libby Barr, Rheolwr Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cwsmeriaid Defnyddwyr BT.

‘Croesawu’r cyhoeddiad’

“Rydyn ni’n croesawu’r cyhoeddiad hwn i’r rhanbarth ar ddiwrnod lle rydyn ni’n gweld colli nifer fawr o swyddi yng ngwaith dur Tata ym Mhort Talbot,” meddai Suzy Davies, AC De Orllewin Cymru.

“Mae’n dda hefyd gweld BT yn cymryd camau i fynd i’r afael â’u hymrwymiad i ddelio ag o leiaf 80% o alwadau cwsmeriaid o swyddfeydd wedi’u lleoli yn y DU.”