Mae cwmni olew BP wedi cadarnhau cynlluniau i gael gwared a thua 600 o swyddi o’i safleoedd ym Mor y Gogledd dros y ddwy flynedd nesaf.

Dywedodd y cwmni ei fod wedi gwneud y penderfyniad yn sgil “amodau mwy heriol” yn y diwydiant.

Mae disgwyl i’r rhan fwyaf o’r swyddi ddiflannu eleni, gyda’r gweddill yn mynd y flwyddyn nesaf, meddai llefarydd.

Fe fydd yn effeithio staff a chontractwyr asiantaeth ac yn golygu bod nifer y bobl sy’n gweithio i’r busnes ym Mor y Gogledd yn gostwng o tua 3,000 i 2,400.