Mae cwmni archfarchnad Morrisons wedi cyhoeddi cynnydd annisgwyl mewn gwerthiant dros gyfnod y Nadolig.

Fe gyhoeddodd y cwmni gynnydd bach o 0.2% mewn gwerthiant, sydd ddim yn cynnwys tanwydd, yn y naw wythnos hyd at 3 Ionawr.

Mae’n dilyn cyfnod ansicr iawn i Morrisons yn dilyn gostyngiadau sylweddol mewn gwerthiant yn y misoedd blaenorol.

Dywedodd prif weithredwr Morrisons David Potts eu bod nhw wedi eu plesio gyda’r canlyniadau a bod “llawer mwy i’w wneud, ond rydym yn gwneud cynnydd pwysig.”

Mae disgwyl i Tesco a Sainsbury’s gyhoeddi eu canlyniadau nhw ganol yr wythnos.