Mae’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) wedi rhoi’r gorau i adolygiad i weithredoedd banciau ym Mhrydain yn sgil yr helynt Libor.

Dywedodd y FCA ei fod wedi penderfynu cysylltu â banciau yn unigol i’w hannog i newid y ffordd maen nhw’n gweithredu er mwyn codi safonau.

Mae’r penderfyniad yn golygu bod adolygiad y corff wedi dod i ben ar ôl ychydig fisoedd yn unig.

Daw’r penderfyniad ar ôl i brif weithredwr y FCA, Martin Wheatley, gyhoeddi ym mis Gorffennaf ei benderfyniad i roi’r gorau i’w swydd pan wrthododd y Canghellor George Osborne i adnewyddu ei gytundeb, a oedd i ddod i ben ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf.

Mewn datganiad dywedodd y FCA: “Mae’r ffocws ar y diwylliant o fewn cwmnïau gwasanaethau ariannol yn parhau’n flaenoriaeth i’r FCA.

“Mae gwaith sylweddol ar droed o fewn y cwmnïau ac yn allanol.

“Rydym wedi penderfynu mai’r ffordd orau o gefnogi’r ymdrechion yma yw cysylltu’n unigol gyda’r cwmnïau a’u hannog i gyflwyno newidiadau i’w diwylliant yn ogystal â chefnogi cynlluniau y tu allan i’r FCA.”

Yn gynharach eleni dywedodd yr FCA wrth y banciau bod angen dysgu gwersi o sgandalau fel helynt Libor, lle’r oedd banciau wedi dylanwadu ar gyfraddau llog, sydd wedi costio biliynau o bunnoedd mewn dirwyon i’r banciau.

Mae George Osborne wedi cael ei gyhuddo o ildio i bwysau gan rai o enwau mawr y byd bancio i roi’r gorau i’r adolygiad.