Canolfan Siopa Dewi Sant Caerdydd (Golwg360)
Dyw’r rhuthr mawr oedd wedi ei broffwydo yng nghanol dinasoedd Cymru ddim wedi digwydd wrth i’r Dydd Gwener Du ddechrau yn llwydaidd iawn.

Er fod disgwyl i siopau ar draws gwledydd Prydain fod dan eu sang heddiw, ac er fod llawer wedi agor eu drysau yn gynnar, mae’r adroddiadau cynta’n awgrymu ei bod hi’n llawer tawelach na’r llynedd.

Ac mae’r un peth yn wir mewn dinasoedd yn Lloegr hefyd.

Dim angen galw’r heddlu

Yng Nghaerdydd er enghraifft, roedd ciw o tua 100 o bobol y tu allan i siop Tesco mwya’r ddinas ar Rhodfa’r Gorllewin erbyn i’r siop agor am 5 y bore, ond doedd dim ailadrodd o’r helynt y llynedd pan fu’n rhaid ffonio’r heddlu ddwywaith i dawelu’r tyrfaoedd.

Er mwyn osgoi’r trafferthion, roedd mynedfa i’r archfarchnad yn gyfyngedig i 10 o bobol ar y tro, wrth i’r cwsmeriaid awyddus giwio yn y glaw.

Yng Nghasnewydd hefyd, roedd y siopau mawr yn sôn am dawelwch cymharol, er eu bod yn disgwyl i bethau brysuro yn nes ymlaen.

Disgwyl gwario mawr ar-lein

Ar y llaw arall, mae disgwyl i siopwyr ar-lein wario £1 biliwn mewn diwrnod am y tro cynta erioed yng ngwledydd Prydain heddiw, wrth i gwmnïau ddilyn yr arferiad Americanaidd o gynnig bargeinion mawr ar y dydd Gwener cynta’ ar ôl Diwrnod Diolchgarwch yr Unol Daleithiau.

Mae eBay yn disgwyl y bydd naw miliwn o bobol yn ymweld â’u gwefan Brydeinig heddiw ac mae Argos, Currys PC World a AO.com i gyd yn cynnig gostyngiadau o gannoedd o bunnoedd oddi ar eitemau, tra bod John Lewis wedi addo gwerthu cynnyrch yr un pris a’i gystadleuwyr.