Bydd pleidlais newydd dros fynd ar streic yn cael ei chynnal ymhlith gyrwyr gyda chwmni trenau Arriva Cymru ar ôl i’r undeb sy’n eu cynrychioli gyhuddo’r cwmni o “dorri ei air.”

Roedd streic dros gyflogau, telerau ac amodau gwaith y gweithwyr i’w chynnal ar ddechrau’r mis ond cafodd ei gohirio er mwyn cynnal rhagor o drafodaethau.

“Ar ôl cyrraedd cytundeb â Threnau Arriva Cymru, mae’r gweithredwr (Arriva) wedi newid yr amodau drwy newid hyd y shifftiau mae disgwyl i’n haelodau weithio,” meddai Mick Whelan, ysgrifennydd cyffredinol yr undeb Aslef.

Dywedodd yr undeb ei bod wedi gobeithio osgoi cynnal y streic ond nad oedd dewis ganddyn nhw oherwydd “gweithredoedd” y cwmni.

Yr undeb wedi “camddeall”

Yn ôl cyfarwyddwr adnoddau dynol Trenau Arriva Cymru, roedd yr undeb wedi “camddeall” cynnig y cwmni.

“Mae’n ymddangos bod camddealltwriaeth wedi bod rhwng y cynrychiolwyr lleol a bwrdd cenedlaethol Aslef,” meddai Gareth Thomas.

“Unwaith eto, rydym yn cael ein hunain mewn sefyllfa lle bod rhannau o’r undeb sydd agosaf i’n pobol wedi cytuno i fanylion y cytundeb ond bod hyn heb fod yn glir i fwrdd gweithredu  cenedlaethol Aslef a oedd ddim yn rhan o’r trafodaethau hyd at 11 Tachwedd.”

Dywedodd Arriva fod ei gynnig wedi bod yn “hael”, gan gynnwys codiad cyflog o 6.5% dros y tair blynedd nesaf, gan godi’r cyflog sylfaenol i yrrwr trên i £46,728.