Gorsaf Drydan Aberddawan (Nigel Homer CCA 2.0)
Mae yna ansicrwydd dros o leia’ 600 o swyddi yn ardal Y Barri yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Prydain eu bod yn anelu at gau pob gorsaf drydan lo erbyn 2025.

Ac fe allai swyddi fynd hefyd mewn gweithfeydd glo yn ne Cymru os bydd pwerdy mawr Aberddawan ym Mro Morgannwg yn gorfod cau.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig bellach wedi lansio ymgynghoriad ar gau’r gorsafoedd glo erbyn 2025.

Er bod rhai’n cyhuddo’r Llywodraeth o weithredu’n rhy gyflym, mae’r Aelod Seneddol tros ardal Aberddawan yn dweud y byddai’r orsaf wedi cau erbyn hynny beth bynnag.

‘Hurt’

Os bydd y cynlluniau i ddiddymu’r diwydiant glo ym Mhrydain yn digwydd, fe allai olygu bod 600 o swyddi yng Ngorsaf Bŵer Aberddawan yn cael eu colli ac mae pryder y gallai hyn gael effaith andwyol ar economi Cymru.

Yr ofn yw y byddai pwll glo Aberpergwm ger Glyn-nedd, sy’n cyflogi 60 o weithwyr a’r gwaith glo brig yn Llys-y-frân ger Merthyr Tudful hefyd yn diodde’ o dan y cynlluniau newydd.

Mae Wayne Thomas, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Cenedlaethol y Glowyr dros dde Cymru’n dweud bod cynlluniau’r llywodraeth yn “hurt”.

“Mae stigma yn erbyn glo ei fod e’n danwydd hen-ffasiwn a’i fod yn llygru’r aer ac mae ‘na wirionedd yn hynny ond does ‘na ddim meddwl proffesiynol y tu ôl i bolisi ynni cyfredol (y llywodraeth),” meddai wrth golwg360.

‘Gwneud yn raddol’

Mynnodd nad oedd e’n “cuddio ei ben yn y tywod” ac roedd yn cydnabod mai ynni adnewyddadwy yw’r “ffordd ymlaen”.

“D’yn ni ddim yn erbyn y cau yn yr hirdymor,” meddai, “ond rhaid i chi ei wneud yn raddol yn hytrach na chau yn syth.”

Fe ddywedodd hefyd y byddai colli 600 o swyddi yng ngorsaf Aberddawan yn ‘golled anferth.’

“Fe fydd e’n cael effaith ddinistriol ar yr ardal a does dim unrhyw waith paratoi wedi cael ei wneud i gyfyngu unrhyw niwed i’r gweithwyr hynny,” meddai.

Bwriadu cau Aberddawan ers pum mlynedd

Ond mae’r Aelod Seneddol dros Fro Morgannwg wedi dweud wrth golwg360 bod RWE npower, y cwmni sy’n berchen ar yr orsaf, wedi bwriadu cau ta beth.

“Cynllun gwreiddiol RWE bum mlynedd yn ôl oedd cau’r pwerdy erbyn 2020, maen nhw wedi cael buddsoddiad i ymestyn yr amser ond mae 2025 yn dal i fod y tu fewn i’w cynlluniau nhw,” meddai Alun Cairns.

“Felly ar un lefel, dyw hwn (cyhoeddiad y llywodraeth) heb gael unrhyw effaith ar Aberddawan.”

Roedd yn pwysleisio hefyd mai ymgynghoriad oedd hwn ar hyn o bryd ac nad oedd dim byd pendant wedi cael ei benderfynu eto.

Croesawu gyda rhybudd

Er i’r mudiad amgylcheddol, WWF Cymru, groesawu’r cyhoeddiad heddiw, fe rybuddiodd y mudiad y byddai cyfrifoldeb nawr ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod swyddi gwyrddion ar gael wrth i ddyfodol glo ddod i ben.

“Bydd cau Aberddawan yn effeithio’n fawr ar leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr Cymru ac yn helpu Llywodraeth Cymru i gyrraedd ei thargedau,” meddai Jessica McQuade, Swyddog Polisi ac Eiriolaeth WWF Cymru.

“Serch hynny r’yn ni’n cydnabod yr effaith ar swyddi ac economi Cymru, felly galwn ar Lywodraeth Cymru i gyflymu ei chynllunio ar gyfer economi isel ei charbon er mwyn darparu swyddi gwyrddion ar gyfer y dyfodol.”