Llun o bencadlys newydd y BBC yng nghanol Caerdydd
Fe fydd gwaith ar ganolfan newydd y BBC yng Nghaerdydd yn dechrau ar 7 Rhagfyr gyda’r gobaith o allu symud bron i 1,200 o staff yno erbyn 2019, yn ôl y gorfforaeth.

Mae BBC Cymru wedi bod yn defnyddio lleoliad yn Llandaf fel ei phrif bresenoldeb yn y brifddinas ers 1966, ond fe fydd y stiwdios newydd yn cael eu lleoli yn y Sgwâr Canolog fel rhan o’r datblygiadau newydd yng nghanol Caerdydd.

Bydd holl wasanaethau presennol y darlledwr gan gynnwys teledu, radio ac ar-lein yn symud i’r ganolfan newydd, fydd hanner maint yr un presennol.

Dyw’r BBC ddim wedi cadarnhau eto fodd bynnag faint fydd cost y ganolfan newydd, dim ond dweud ei fod yn rhatach nag aros yn eu safle presennol yn Llandaf.

‘Tarfu llai’

Dywedodd y BBC nad yw eu safle presennol “bellach yn addas” ac y byddai symud i safle newydd yn y Sgwâr Canolog “yn tarfu llai ar ein gwasanaeth darlledu” o’i gymharu ag ailddatblygu Llandaf.

Mae disgwyl i’r ganolfan newydd, fydd hefyd yn gartref i wasanaethau S4C, gael ei hariannu’n rhannol o werthu’r safle presennol.

“Bydd y ganolfan ddarlledu newydd hon yn gosod BBC Cymru yng nghalon ein prifddinas – yn nes at ein cynulleidfaoedd a llawer o’n partneriaid,” meddai Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru.

“Bydd hefyd yn sbarduno adfywiad llawer ehangach fydd yn helpu i drawsnewid Caerdydd.

“Mae BBC Cymru yn cyffwrdd bywydau miliynau o bobl nid yn unig yng Nghymru ond ledled y DU a thu hwnt – felly rwyf wrth fy modd y bydd y buddsoddiad strategol allweddol hwn yn ein galluogi i gynllunio ar gyfer ein dyfodol gyda hyder go iawn.”