Mae gwerthiant Volkswagen wedi gostwng 9.8% yn y DU yn sgil yr helynt am dwyllo profion allyriadau disel, yn ôl ffigurau swyddogol.

Cafodd 13,970 o gerbydau VW eu gwerthu fis diwethaf o’i gymharu â 15,495 ym mis Hydref 2014, yn ôl Cymdeithas y Gwneuthurwyr a Masnachwyr Moduron (SMMT).

Ond roedd cynhyrchwyr ceir eraill hefyd wedi gweld gostyngiad mewn gwerthiant.