Mae banc  Standard Chartered am gael gwared â 15,000 o swyddi yn fyd-eang fel rhan o gynllun i arbed arian yn dilyn colledion sylweddol.

Mae’r grwp bancio wedi cyhoeddi toriadau staff o dan gynlluniau i arbed £1.9 biliwn erbyn 2018.

Daw’r manylion  wrth i’r cwmni ddatgelu ei fod wedi gwneud colledion o £90 miliwn cyn treth yn y trydydd chwarter, o gymharu ag elw o £972 miliwn y llynedd.

Mae’r banc, sydd a’i bencadlys yn Llundain ond sy’n gwneud y rhan fwyaf o’i elw yn Asia, wedi dweud ei fod eisoes wedi cael gwared a 5,000 o swyddi hyd yn hyn eleni, gan dorri’r gweithlu i 86,000.

Dechrau diswyddo uwch-reolwyr

Doedd y cwmni ddim am ddweud pa ranbarthau fyddai’n cael eu heffeithio gan y toriadau diweddaraf, er mae’r rhan fwyaf o’i staff wedi’u lleoli yn Asia, y Dwyrain Canol ac Affrica, gyda tua 2,000 o swyddi yn y Deyrnas Unedig.

Bydd y toriadau wedi’u gwneud erbyn 2018, ond mae’r grŵp eisoes wedi dechrau diswyddo 1,000 o uwch-reolwyr ledled y byd.

Roedd cyfraddau’r banc wedi gostwng  6% ar ôl i’r ffigurau diweddaraf am eu colledion ariannol gael eu cyhoeddi.