Mae Trinity Mirror wedi prynu un o’i phrif gystadleuwyr Local World am £220m, gan greu’r cwmni newyddion mwyaf ym Mhrydain.
Bydd y cwmni’n prynu’r 80% o gyfrannau Local World nad yw eisoes yn berchen arnyn nhw am £154.4m, gan olygu eu bod yn gwneud arbedion o rhwng £10m a £12m.
Mae prif bapurau newydd grŵp Trinity Mirror eisoes yn cynnwys y Daily Mirror, Sunday Mirror, Daily Record a’r People, yn ogystal â phapurau fel y Western Mail a’r Daily Post yng Nghymru.
Bydd rhai o’r 83 cyhoeddiad sydd gan Local World nawr dan adain Trinity Mirror gan gynnwys y South Wales Evening Post, Carmarthen Journal a’r Llanelli Star.
200 o bapurau
Mae’n golygu y bydd gan Trinity Mirror bellach 200 o bapurau newydd a chylchgronau yn ei stabl, er ei bod hi wedi cytuno i werthu rhai cyhoeddiadau Local World yng Nghaergrawnt a Hertfordshire i Yattendon Group.
Mae disgwyl i’r cwmni hefyd godi £35.4m mewn gwerthiant cyfrannau fel rhan o’r cytundeb i brynu Local World.
“Mae hwn yn ddiwrnod da i gyfryngau lleol,” meddai prif weithredwr Trinity Mirror Simon Fox.
“Mae Local World yn fusnes rydyn ni’n gwybod amdano ac yn ei barchu, ac wrth ei gyfuno â Trinity Mirror fe fyddwn ni’n creu cwmni o faint, gyda thalent a’r gallu ariannol i fuddsoddi ac addasu i’r tirlun cyfryngol sydd yn newid yn gyflym.
“Mae hyn yn dangos ffydd yn y cyfryngau lleol a’i dyfodol.”
Ychwanegodd prif weithredwr Local World David Montgomery fod Trinity Mirror wedi prynu “busnes egnïol â dyfodol cryf”.