Mae’r cwmni ceir o’r Almaen, Volkswagen, wedi cyhoeddi colledion gwerth 3.5 biliwn Ewro (£2.5 biliwn) yn ystod y chwarter diwethaf.

Daw’r cyhoeddiad ar ddiwedd cyfnod anodd i’r cwmni yn dilyn sgandal allyriadau disel.

Mae’r colledion o ganlyniad uniongyrchol i’r sgandal, ac mae’r cwmni wedi neilltuo £4.8 biliwn (6.7 biliwn ewro) i ddatrys y sefyllfa.

Fis diwethaf, cyfaddefodd y cwmni eu bod nhw wedi gosod systemau oedd wedi’u cynllunio i dwyllo profion allyriadau diesel mewn 11 miliwn o geir ar draws y byd.

Effeithiodd y sgandal ar 1.2 miliwn o geir yn y DU.

Mae’r cwmni wedi dechrau cynnal ymchwiliad, ac wedi penodi cadeirydd a phrif weithredwr newydd.

Dywedodd y prif weithredwr newydd, Matthias Muller: “Mae’r ffigurau’n dangos cryfder craidd Volkswagen Group ar y naill law, tra bod effaith wreiddiol y sefyllfa bresennol yn dod yn glir ar y llaw arall.

“Fe wnawn ni bopeth o fewn ein gallu i adennill yr hyder gollon ni.”

Mae cyfrannau’r cwmni  i fyny 2.75% o ganlyniad i’r newyddion.