Mae Bathdy Brenhinol Llantrisant wedi creu darn arian £5 i nodi 600 mlynedd ers Brwydr Agincourt.
Y Saeson oedd yn fuddugol yn un o frwydrau mwya’r Rhyfel Can Mlynedd ar Hydref 25, 1415 yn Picardy yng ngogledd Ffrainc.
Bydd darn aur arbennig yn costio £1,650 tra bydd darn arian yn costio £80.
Cymerodd saethwyr o Lantrisant ran yn y frwydr.