Mae bron i 250 o swyddi yn y fantol yng Nghastell Nedd ar ôl i gwmni Crown gyhoeddi eu bod yn ystyried cau eu ffatri yno.

Mae’r cwmni, sydd yn gwneud deunyddiau pacio nwyddau, wedi cyfaddef eu bod eisoes yn ymgynghori ynglŷn â chau’r safle gan ei bod hi’n bosib na fyddan nhw angen y ffatri bellach.

Dywedodd undeb Unite Cymru y byddai colli’r swyddi yn ergyd fawr arall i’r diwydiant cynhyrchu yng Nghymru, ac mae gwleidyddion lleol hefyd wedi mynegi pryder am y newyddion.

Cyfarfod â staff

Yn ôl Unite Cymru maen nhw eisoes wedi cael clywed y gallai safle Crown Packaging ar Stad Ddiwydiannol Ffordd Milland yng Nghastell Nedd fod yn cau.

“Mae hwn yn ergyd fawr i’r diwydiant cynhyrchu yng Nghymru ac i Gastell Nedd yn enwedig, gan ei bod hi wedi colli sawl cyflogwr mawr dros y blynyddoedd diwethaf,” meddai ysgrifennydd Unite Cymru, Andy Richards.

“Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud popeth y gallan nhw i ymyrryd a thrafod cynlluniau gwahanol yn lle cau’r ffatri gyda’r cwmni.

“Fe fydd Unite wrth gwrs yn trafod â’r cwmni er mwyn ceisio osgoi cau’r ffatri.”

Sefydlu tasglu

Dywedodd Unite eu bod eisoes wedi cynnal trafodaethau â Gweinidog Economi Llywodraeth Cymru Edwina Hart er mwyn ceisio sefydlu tasglu, gan groesawu hefyd cefnogaeth yr AS Castell Nedd Christina Rees a’r AC Gwenda Thomas.

Yn ôl cwmni Crown fe fyddan nhw’n cyfarfod â staff yn fuan i drafod beth fydd y camau nesaf.

“Rydym ni’n deall fod hwn yn gyfnod anodd i bobl sy’n ymwneud â ffatri Castell Nedd ac rydym ni’n bwriadu cyfarfod â holl staff y safle i esbonio’r cynlluniau mewn mwy o fanylder,” meddai’r cwmni mewn datganiad.

Mae gan Crown ddau safle arall sy’n pecynnu bwyd yn y DU, yn Braunstone a Wisbech. Mae’n rhan o bortffolio Crown sy’n cynnwys 134 o safleoedd mewn 41 o wledydd.