Mae cyn-bennaeth yr Anglo Irish Bank wedi cael ei arestio yn yr Unol Daleithiau.

Mae’r awdurodau yn Iwerddon wedi bod eisiau holi David Drumm, 48, am y modd yr aeth y banc â’i ben iddo.

Fe gafodd David Drumm ei arestio gan swyddogion yn Massachusetts, ac fe fydd yn aros yn y ddalfa nes y bydd gwrandawiad estraddodi yn cael ei gynnal ddydd Mawrth.

Mae Iwerddon wedi bod eisiau estraddodi’r benthycwr ers iddo fethu yn ei ymgais i gofrestru’n fethdalwr yn yr Unol Daleithiau.

Fe symudodd i fyw i Massachusetts yn 2009, chwe mis wedi iddo ymddiswyddo o fod yn Brif Weithredwr y banc sydd bellach ddim yn bod. Dyma’r banc oedd yn ganolog yn nhwf – ac yng nghwymp – y chwyldro ariannol mawr yn Nulyn ac Iwerddon.

Ynghyd ag eraill, fe ymddiswyddodd David Drumm wedi i fenthyciadau cyfarwyddwyr y banc, gwerth miliynau o bunnau – ddod i’r amlwg.

Fe wrthododd ddychwelyd i Iwerddon i gael ei holi gan yr heddlu am y digwyddiadau’n arwain at gwymp y banc. Fe gafodd yr Anglo-Irish Bank ei wladoli, cyn i’r busnes gael ei ddirwyn i ben.