Great Western
Mae cwmni Great Western Railway, sy’n cynnal y gwasanaeth trenau rhwng De Cymru a Llundain, wedi amddiffyn ei gwasanaethau yn dilyn ymchwil gan undeb yr RMT sy’n honni fod teithiau’n arafach nawr nag oedan nhw dan British Rail (BR) 40 mlynedd yn ôl – a hynny er gwaetha buddsoddiad enfawr.

Dywedodd yr Undeb Gweithwyr Rheilffyrdd, Arforol a Chludiant (RMT) fod eu hymchwil yn dangos y bydd gwasanaethau ar y rheilffordd rhwng de Cymru a Llundain o Ragfyr 2018 ymlaen yn arafach nag yn y cyfnod cyn i’r rheilffyrdd gael eu preifateiddio.

‘Dwywaith gymaint o drenau’

Ymatebodd llefarydd cwmni Great Western Railway gan fynnu fod eu ffeithiau yn anghywir: “Ym 1977, roedd chwe thrên yn rhedeg bob dwy awr rhwng Caerdydd a Llundain, a Bryste a Llundain, o’i gymharu gyda 12 trên a fydd yn rhedeg bob dwy awr yn dilyn trydaneiddio’r lein a chyflwyno trenau newydd. Mae hynny’n ddwywaith gymaint.”

“Fe fydd yr amser cyflymaf o Gaerdydd i Lundain, a ddyfynnwyd gan yr Undeb, yn 1977 yn 1 awr 45 munud. Fe fydd hynny’r un fath wrth gyflwyno trenau newydd a  thrydaneiddio’r lein.

“Serch hynny, tra bod un trên y dydd yn llwyddo i gymryd 1 awr a 45 munud ym 1977, ar ôl trydaneiddio’r lein a chyflwyno trenau newydd, fe fydd o leiaf tri thrên y dydd rhwng y ddwy ddinas yn llwyddo i gyflawni’r amser yna, gyda mwyafrif yn llwyddo i gyrraedd yn agos.”

Ychwanegodd y llefarydd fod y gwasanaeth wedi gwella:  “Mae’r gymhariaeth a wnaed gan yr RMT yn anghywir. Hyd yn oed heddiw, rydym yn rhedeg dwywaith gymaint  o drenau a wnaeth BR  40 mlynedd yn ôl, gan fynd i ragor o orsafoedd, gan ganiatáu mwy o ddewisiadau i gwsmeriaid.”

‘Methiannau’

Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol yr RMT, Mick Cash: “Mae’r adroddiad hwn yn dangos unwaith yn rhagor fod preifateiddio’r rheilffyrdd wedi bod ymhlith y methiannau polisi mwyaf ers y rhyfel. Mae gwasanaethau rheilffordd sydd wedi’u preifateiddio, nid yn unig yn orlawn a drud, ond hefyd yn arafach.”