Fe allai cwmni Volkswagen ddechrau galw cerbydau yn ôl ym mis Ionawr yn dilyn yr helynt am dwyllo profion allyriadau disel, meddai prif weithredwr newydd y cwmni.

Dywedodd Matthias Mueller wrth bapur newydd yr Almaen, Frankfurter Allgemeine Zeitung, ei fod yn gobeithio y bydd yr holl gerbydau sydd wedi’u heffeithio yn cael eu hatgyweirio erbyn diwedd y flwyddyn nesaf.

Mae’r cwmni o’r Almaen wedi cadarnhau bod bron i 1.2 miliwn o gerbydau disel yn y DU ymhlith 11 miliwn o gerbydau yn fyd eang sydd wedi’u heffeithio gan yr helynt.