Mae cwmni archfarchnad Sainsbury’s wedi tynnu allan o gytundeb i adeiladu siop fawr newydd mewn pentref yn Sir Gaerfyrddin.

Roedd disgwyl i 350 o swyddi ddod i’r ardal leol wrth agor yr archfarchnad gwerth £60 miliwn.

Roedd yr archfarchnad i fod yn rhan o ddatblygiad gwerth miliynau o bunnoedd gan Gyngor Sir Gaerfyrddin yn Cross Hands, ger Gorslas.

Roedd y datblygiad hefyd yn cynnwys cynllun i adeiladu 250 o gartrefi, gorsaf betrol a chlwb iechyd newydd, ac roedd disgwyl i Glwb Gweithwyr Cross Hands hefyd gael ei adnewyddu fel rhan o’r un cynllun.

‘Arferion siopa pobl wedi newid’

Yn ôl llefarydd ar ran yr archfarchnad, roedd y newid yn y farchnad fanwerthu ac arferion siopa pobl wedi achosi i’r cwmni ail-ystyried.

“Yn dilyn adolygiad mewnol, rydym wedi penderfynu ein bod ni’n methu parhau â chynlluniau i ddatblygu ein siop newydd yn Cross Hands,” meddai’r llefarydd.

“Yn dilyn ein hadolygiad, rydym wedi gwerthu ein tir i gwmni Conygar a fydd yn cyflwyno cynllun manwerthu amrywiol i’r safle.

“Rydym yn cydnabod bod y newyddion hyn yn siomedig, a byddwn yn parhau i edrych am gyfleoedd newydd i ddod â siopau eraill, fel rhai cyfleuster i’r ardal leol.”

Mae’r datblygwr Conygar PLC wedi cadarnhau ei fod wedi prynu’r safle 10 erw gan Sainsbury’s.

‘Siom’

“Rydym yn amlwg wedi cael ein siomi gan benderfyniad Sainsbury’s i beidio parhau â’r archfarchnad yn Cross Hands, rydym yn deall eu rhesymau oherwydd y dirywiad yn y farchnad fanwerthu yn genedlaethol,” meddai arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Emlyn Dole.

“Fodd bynnag, rydym yn falch o’r newyddion bod Conygar bellach yn berchen ar y safle a’r ffaith bod ganddyn nhw gynlluniau pendant ar gyfer ei ddyfodol.”