Mae TUC Cymru wedi lansio ymgyrch heddiw yn galw am ‘Swyddi Gwell, Agosach i’r Cartref’ i gymunedau’r Cymoedd.

Yn ôl y corff sy’n siarad ar ran undebau llafur yng Nghymru, mae “tlodi” a “diffyg cyfleoedd economaidd” yn y cymoedd wedi gwneud iddo alw am ddull newydd o fynd i’r afael â’r problemau hyn.

Bydd TUC Cymru yn cyflwyno “achos manwl i weithredu” i’r Prif Weinidog Carwyn Jones, y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt ac uwch- gynrychiolwyr busnes yng Nghyngor Cymru ar gyfer Adnewyddu Economaidd.

Mae’r corff yn dweud y gall pwerau newydd sy’n dod i Gymru ffurfio dull newydd i greu cyflogaeth “go iawn” yn y cymoedd a chael gwared ar y “mythau sy’n annog pobl busnes i beidio â buddsoddi yn yr ardal.”

Mae’r TUC yn galw am brosiectau gwario cyhoeddus i gael eu defnyddio er mwyn sicrhau bod pobl sy’n cael eu “cau allan” o’r farchnad lafur yn gallu dod o hyd i waith da yng nghanol eu cymunedau.

Yn ôl y mudiad, bydd yr ymgyrch hefyd yn amlygu’r her y mae “llawer yn ei wynebu” o gydbwyso ymrwymiadau gofal gyda gwaith a’r “gost llethol” o weithio ar gontractau sero awr.

Galw ar y llywodraeth i ymyrryd

“Mae swyddi gwell sy’n agosach i gartrefi pobl yn swnio fel rhywbeth syml ond rydym wedi ei gefnogi â chynigion a thystiolaeth,” meddai Martin Mansfield, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru.

“Mae’r farchnad rydd wedi methu pobl y cymoedd am ddegawdau a phan fydd y marchnad yn methu, mae angen i’r llywodraeth ymyrryd.

“Wrth gwrs, mae ardaloedd difreintiedig eraill yng Nghymru, ond y cymoedd sydd â’r nifer fwyaf o amddifadedd.

“Dim ystadegu economaidd yw’r rhain, mae’r rhain yn bobl heb swyddi, teuluoedd sy’n byw mewn tlodi, cymunedau cyfan yn cael eu dal yn ôl.

Ychwanegodd Martin Mansfield, ei fod am weld Llywodraeth Cymru’n defnyddio’r pwerau newydd sydd ganddi er mwyn “cyflwyno cyfleoedd gwirioneddol a gwaith da lle bo’u hangen fwyaf.”

“Heb ymyrraeth ymarferol, wedi’i chydlynu i helpu economi’r cymoedd, bydd Cymru bydd yn datblygu’n economaidd fel gwlad. Gall Cymru ddim ffynnu tra fydd y Cymoedd yn dioddef.”

Llywodraeth Cymru yn cefnogi “ethos” yr ymgyrch

“Rydym yn cytuno â TUC Cymru am yr angen i sicrhau bod y Cymoedd yng Nghymru yn lleoedd bywiog i fyw a gweithio ac yn cefnogi ethos ei ymgyrch,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Mae’r darlun economaidd yng Nghymru yn gwella, gyda’r nifer sydd mewn gwaith yng Nghymru wedi cynyddu’r mwyaf nag unrhyw rhan arall o’r Deyrnas Unedig

“Yn y Cymoedd yn enwedig, yn Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Caerffili, Blaenau Gwent a Thorfaen, mae graddfeydd cyflogaeth ar i fyny.

“Ers 2011, mae twf mewn cyflogaeth yn yr awdurdodau lleol hyn wedi bod yn gynt na’r rhan fwyaf o rhannau eraill o Gymru. Mae dros 20,000 o bobl bellach mewn gwaith yn yr ardaloedd hyn nag oedd yn 2011.”

Metro’r De-ddwyrain

“Mae hefyd yn bwysig cofio Metro De Ddwyrain Cymru, prosiect trawsnewidiol, a fydd yn gwella trafnidiaeth ar draws y rhanbarth a fydd hefyd yn gatalydd ar gyfer gwella arolygon economaidd a chymdeithasol ar gyfer y de-ddwyrain.

“Rydym yn parhau i gefnogi’r Cymoedd drwy nifer o brosiectau arloesol sy’n cael eu hariannu gan Ewrop, sy’n ceisio cael pobl yn ôl i fyd gwaith neu eu helpu i aros yn eu swyddi cyfredol.”