Ni fydd y penderfyniad i dorri credyd treth yn cael ei adolygu, meddai Prif Weinidog Prydain, David Cameron, a hynny er gwaethaf pwysau gan aelodau’r Blaid Geidwadol.

Mae Cameron yn mynnu bod y pecyn toriadau’n briodol ar gyfer codi cyflogau a thorri trethi er mwyn gwneud yn iawn am doriadau i fudd-daliadau pobol sydd mewn gwaith.

Mae beirniaid wedi condemnio’r cynlluniau, gan ddweud y bydd miliynau o deuluoedd yn colli symiau sylweddol o arian.

Daw’r ffrae ar ddechrau cynhadledd y Ceidwadwyr ym Manceinion.

Dywedodd Cameron wrth raglen Andrew Marr y BBC fod cyflwyno’r cyflog byw a chynyddu’r lwfans personol yn amddiffyn y bobol dlotaf yn y gymdeithas.

“Rydyn ni’n amddiffyn y bobol sy’n derbyn y cyflogau isaf gyda chredyd treth plant a’r hyn a ddaw yn sgil hynny ond rydyn ni’n symud tuag at economi lle rydych chi’n derbyn mwy o gyflog ac yn talu llai o drethi, yn hytrach na thalu mwy o drethi a chael ad-daliad mewn credyd treth. Mae’r system honno’n well.”

Dywedodd ei fod wedi gorfod gwneud “penderfyniadau anodd” i leihau’r diffyg ariannol.

Mae protest wedi cael ei chynnal ym Manceinion, ac roedd disgwyl i hyd at 70,000 o bobol fod yn bresennol.

Dywedodd yr aelod seneddol Llafur, Jon Ashworth: “Mae David Cameron wedi dangos bod ei addewidion i sefyll i fyny dros deuluoedd sy’n gweithio’n ffars llwyr.”

Mae’r Sefydliad Astudiaethau Ariannol (IFS) eisoes wedi dweud nad yw cynlluniau David Cameron yn ymarferol.

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol Unsain, Dave Prentis: “Bydd miliynau o deuluoedd ag incwm canolig yn dioddef y flwyddyn nesaf oherwydd bod y Canghellor wedi cipio’r credyd treth oddi arnyn nhw.

“Mae gweinidogion yn cosbi miliynau o bobol sy’n gweithio ac sydd am ddarparu ar gyfer eu plant.”