Mae cwmni ceir Volkswagen wedi cadarnhau heddiw mai’r prif swyddog ariannol, Hans Dieter Poetsch, fydd cadeirydd newydd ei fwrdd.

Ar hyn o bryd, mae’r cwmni’n wynebu sgandal fyd-eang, wrth iddi ddod i’r amlwg ei fod eu ceir yn cynnwys cyfrifiaduron oedd yn gallu twyllo profion llygredd yr Unol Daleithiau.

Mr Poetsch, 64, ydi prif swyddog ariannol y cwmni ers 2003.

Fe fydd cyfarfod arbennig o gyfranddalwyr y cwmni ar Dachwedd 9 eleni. Yn y cyfamser, mae ymchwiliad yn cael ei gynnal gan gwmni Jones Day, a hwnnw’n cymryd “rai misoedd”.

Mae’r datganiad hwnnw’n awgrymu felly na fydd adroddiad ar gael erbyn y cyfarfod ddechrau Tachwedd, ac na fydd VW yn gallu cynnig atebion sicr i gwestiynau cyfranddalwyr.