Golygfa o Brestatyn (Graham Horn CCA 2.0)
Dyw hi ddim fel rheol yn cael ei hystyried yn dre’ ffasiynol ond mae Prestatyn wedi cael ei henwi ar restr fer o 21 o strydoedd mawr gorau gwledydd Prydain.

Fe fydd y dref yng ngogledd Cymru yn cystadlu â Bognor Regis ac Amble i geisio ennill y wobr yng nghategori ‘Cymunedau Glan Môr’ ac wedyn y teitl cyffredinol.

Pleidlais gyhoeddus fydd hi i ddewis o blith y strydoedd ar y rhestr fer a, phetai Prestatyn yn ennill, fe fyddai’n cipio’r wobr oddi un o drefi glan-môr eraill gogledd Cymru, Bae Colwyn, yr enillydd y llynedd.

Cyfanswm o saith categori sydd i wobrau’r Great British High Street Awards – y chwech arall yw ‘Lle Dinesig’, ‘Canol Tref’, ‘Tref Farchnad’, ‘Canolfan Leol’, ‘Pentref’ a ‘Llundain’, gyda thri lleoliad ar restr fer pob categori.

Cymorth i siopau

Yn ogystal â balchder lleol o ennill yng ngwobrau’r stryd fawr fe fydd gwobrau ariannol ar gael yn ogystal â hyfforddiant ar gyfer siopau, tafarndai a bwytai’r ardal.

“Roedd mwy o geisiadau o safon nag erioed wedi cael eu derbyn i’r gystadleuaeth eleni, prawf o falchder pobl leol a’r gwaith gwych sy’n cael ei wneud i hybu strydoedd mawr Prydain,” meddai’r Gweinidog Strydoedd Mawr Marcus Jones.

“Y stryd fawr yw calon sawl tref, pentref a dinas ar draws y wlad ac mae’r gwobrau hyn yn gyfle gwych nid yn unig i ddathlu’r rheiny sydd yn rhagori, ond helpu eraill i ddysgu o’u llwyddiant.”

Bydd modd i’r cyhoedd ddewis yr enillwyr ym mhob categori ar wefan y gwobrau, gyda’r bleidlais yn cau ym mis Tachwedd.