Caerdydd
Mae Cyngor Dinas Caerdydd ac S4C, wedi penderfynu lansio cynllun newydd i fuddsoddi £300,000 mewn busnesau yng Nghaerdydd.

Bydd cangen fasnachol y Cyngor ynghyd ag S4C, yn cyfrannu £150,000 yr un tuag at y gronfa a fydd yn annog datblygiad economaidd ym mhrifddinas Cymru.

Mae’r cynllun wedi’i anelu at fusnesau newydd a deinamig sydd wedi’u lleoli, neu sydd am fuddsoddi, yng Nghaerdydd.

‘Diwydiannau creadigol’

“Nod y fenter yw creu gweithgarwch, hybu swyddi a chreu incwm masnachol i’w ail-fuddsoddi yng ngwasanaeth cyhoeddus S4C”, meddai Elin Morris, Cyfarwyddwr Corfforaethol a Masnachol S4C.

Fe ddywedodd fod buddsoddiadau S4C yn y diwydiannau creadigol yn gwneud cyfraniad pwysig i’r economi yng Nghymru.

Ychwanegodd hefyd ei bod yn edrych ymlaen at weithio gyda Chyngor Caerdydd er mwyn ychwanegu at effeithlonrwydd y cynllun.

Yn ôl llefarydd ar ran Cyngor Dinas Caerdydd, mae criw o raddedigion sydd am sefydlu busnes i greu rhaglenni digidol i’r we, eisoes wedi dangos diddordeb.

Dylai unrhyw fenter sydd â diddordeb gysylltu â Chyngor Dinas Caerdydd am ragor o fanylion. Bydd y cyllid ar gael am flwyddyn yn unig.