Dylai’r “mwyafrif llethol” o gyflogwyr fedru fforddio talu’r Cyflog Byw Cenedlaethol newydd.

Erbyn mis Ebrill y flwyddyn nesaf, bydd un ymhob pedwar o weithwyr yn cael codiad cyflog wrth i’r Cyflog Byw Cenedlaethol godi i’r rhai dros 25 oed.

Ond, mae adroddiad newydd yn dangos y bydd y rhan fwyaf o gyflogwyr yn medru ymdopi â hyn, oherwydd, ar gyfartaledd, bydd cyfanswm y taliad cyflogau ond yn cynyddu 0.2%

Manwerthu a lletygarwch

Fe ddywedodd sefydliad sy’n dadansoddi safonau byw, Resolution Foundation, y bydd y cynnydd mewn cyflogau yn effeithio fwyaf ar fusnesau manwerthu, llety a lletygarwch a gwasanaethau cefnogaeth.

Erbyn mis Ebrill 2016, bydd y Cyflog Byw Cenedlaethol yn codi i £7.20 yr awr, ac erbyn 2020 disgwylir i’r gyfradd honno godi i £9 yr awr.

Bydd hyn yn golygu y bydd taliad cyflogau’r wlad yn cynyddu 0.6% erbyn y flwyddyn nesaf, ac yn cynyddu £4.5 biliwn erbyn 2020.