Merched fydd y rhai i elwa fwyaf o’r Cyflog Byw Cenedlaethol a ddaw i rym flwyddyn nesaf, yn ôl astudiaeth newydd.

Mae’r astudiaeth hefyd yn dangos y bydd gweithwyr mewn ardaloedd yng Nghymru ymysg y rhai fydd yn elwa fwyaf o’i gymharu ag ardaloedd eraill.

Cymru’n elwa

O fis Ebrill nesaf ymlaen, bydd rhaid i gwmnïau dalu eu holl weithwyr sydd dros 25 oed o leiaf £7.20 yr awr. Y Cyflog Byw Cenedlaethol ar hyn o bryd yw £6.50.

Golyga hyn y bydd bron i draean o ferched sy’n gweithio yn cael codiad cyflog, ac yn ôl yr astudiaeth, mae cyfran uwch o ferched, ar gyfartaledd, yn gweithio mewn swyddi sy’n talu’n isel.

Mae’r astudiaeth yn honni hefyd y bydd hyn yn cael effaith gadarnhaol ar y bwlch rhwng cyflogau dynion a merched sy’n bodoli ar hyn o bryd, ac y bydd merched sy’n gweithio rhan amser ar eu hennill hefyd.

Esboniodd Conor D’Arcy o sefydliad y Resolution Foundation y bydd y “codiad cyflog yn effeithio ar dri allan o ddeg o weithwyr mewn rhai ardaloedd”,

Nododd fod Cymru’n cael ei hystyried fel un o’r ardaloedd hynny fydd yn elwa fwyaf, ynghyd â rhannau o Swydd Efrog a Chanolbarth Lloegr.

Cyflog Byw Cenedlaethol

 

Mae 16 mlynedd wedi mynd heibio ers cyflwyno’r Cyflog Byw Cenedlaethol am y tro cyntaf.

Yn ôl Conor D’Arcy, “mae’r Cyflog Byw yn cynrychioli’r hwb angenrheidiol sydd ei angen ar filiynau o weithwyr sy’n cael cyflogau isel”.

Dengys yr astudiaeth y bydd 6 miliwn o bobol – bron i chwarter yr holl bobol sy’n cael eu cyflogi – yn cael codiad cyflog cyn diwedd y ddegawd hon.

“Bydd yr effaith ar weithwyr, a’r heriau i gyflogwyr yn enfawr,” ychwanegodd Conor D’Arcy.