Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd
Mae nifer o westai yng nghanol Caerdydd ar gyfartaledd wedi  codi eu prisiau 219% yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd o gymharu â’u prisiau arferol, yn ôl arolwg gan wefan archebu ystafelloedd gwely.

Mae disgwyl i filoedd o gefnogwyr deithio i Gaerdydd pan fydd Cwpan Rygbi’r Byd  yn dod i Stadiwm y Mileniwm rhwng mis Medi a Hydref eleni.

Mae’r ddinas yn cynnal wyth gêm i gyd, gan gynnwys chwe gêm grŵp a dwy gêm yn y rownd gogynderfynol.

Mae’r arolwg gan wefan Cheaprooms, yn dangos fod  un gwesty yng nghanol y ddinas yn codi £400 am ystafell ddwbl ar Hydref 18, sydd ar ddiwrnod y drydedd gêm yn y rowndiau gogynderfynol – sy’n gynnydd o 500% o’i gymharu â’u prisiau arferol.

Mae gwesty arall ger Stadiwm y Mileniwm yn codi £799 ar Hydref 11, pan fydd Iwerddon yn herio Ffrainc, sy’n gynnydd o 633%. Yr ystafell rataf ynghanol Caerdydd ar y diwrnod hwnnw fydd £400.

Mae’r arolwg yn dangos fod canfod ystafelloedd yng nghanol Caerdydd yn ystod gemau grŵp yn rhatach o lawer, ble y gellir cael ystafell am £150 pan fydd Cymru yn wynebu Wrwgwai ar Fedi 20 tra’i bod yn bosib cael ystafell ar noson y gêm yn erbyn Fiji am £250.