Mae gweithwyr cwmni bysus Bws Caerdydd wedi dechrau streic a fydd yn para 24 awr.

Fe fu trafodaethau ers 10 mis rhwng rheolwyr y cwmni ac aelodau’r undeb tros godiad cyflog.

Roedd y gweithwyr eisoes wedi gwrthod codiad cyflog o 3% a chynnydd pellach o 2% yn 2016.

Roedd penaethiaid y cwmni wedi gobeithio dod i gytundeb neithiwr i geisio atal cyfres o streiciau gan 540 o weithwyr am 10 niwrnod dros gyfnod o saith wythnos.

Mae disgwyl i streiciau 24 awr gael eu cynnal ar Fedi 5 a 23, a Hydref 11.

Fe fydd streiciau 48 awr yn cael eu cynnal ar Fedi 19 a Hydref 1 ac 17.

Mae disgwyl i amserlenni’r cwmni gael eu cwtogi’n sylweddol yn ystod y cyfnod ac fe fydd cwmni Bws Casnewydd yn derbyn teithwyr ar gyfer rhai teithiau sydd wedi cael eu heffeithio.

Cwpan Rygbi’r Byd

 

Mae’n debygol y bydd y streic yn effeithio ar deithwyr sy’n mynd i gemau Cwpan Rygbi’r Byd yng Nghaerdydd rhwng Cymru ac Wrwgwai ar Fedi 20 a Chymru a Ffiji ar Hydref 1.