(Llun: PA)
Mae merched yn eu hugeiniau bellach yn ennill £1,111 yn fwy na dynion ar gyfartaledd, yn ôl ymchwil newydd.

Dangosodd ymchwil Press Association, gan ddefnyddio data’r ONS, bod cyflogau merched rhwng 22 a 29 nawr yn uwch na dynion, rhywbeth nad yw wedi bod yn wir o’r blaen.

Ond wrth iddyn nhw fynd yn hŷn mae’r bwlch rhwng tâl dynion a merched yn newid, gyda dynion yn eu 30au yn ennill dros £8,500 yn fwy na merched o’r un oedran erbyn 2013.

Llai yn cyrraedd swyddi uwch

Cafodd y data ei roi at ei gilydd ar ôl dadansoddi cyflogau dynion a merched rhwng 2006 a 2013.

Yn ôl Ann Pickering, cyfarwyddwr adnoddau dynol gydag O2, un o’r prif esboniadau am y gwahaniaethau yw bod merched yn llai tebygol na dynion o gyrraedd y swyddi uwch sydd yn talu’n dda wrth iddyn nhw fynd yn hŷn.

“Os nad yw merched yn gwneud yr un rôl â dynion, sut allan nhw fod ar yr un cyflogau?” gofynnodd.

Mynnodd y gweinidog sydd yn gyfrifol am ferched a chydraddoldeb, Nicky Morgan, fod y llywodraeth yn ceisio annog cwmnïau i dalu dynion a merched yn deg ac y bydd yn rhaid i gwmnïau mawr gyhoeddi ffigyrau ar gyfer eu bwlch nhw mewn cyflogau.