Mae marchnadoedd stoc Asia ar ei fyny ar ddiwedd wythnos gythryblus.

Y farchnad stoc yn Japan sydd wedi bod yn arwain, gyda’r farchnad yno yn profi twf, a chyfranddaliadau yn Shanghai hefyd yn cynyddu eu gwerth mewn ymateb i’r twf yn Wall Street, a orffennodd y dydd yn gryfach ddoe.

Fe gododd Mynegai Shanghai yn China dros 2.1% i 3,149.35, ar ben y cynnydd o 5.3% a brofwyd ddydd Iau.

Mae marchnadoedd ariannol yn dychwelyd i gyfnod o dawelwch ar ôl pythefnos cythryblus, a welodd y farchnad stoc yn China yn plymio.