Mae disgwyl i hyd at 400 o swyddi gael eu creu wrth i gwmni Legal & General ehangu eu gwasanaethau yng Nghaerdydd.

Mae’r cwmni, sy’n ymddangos ar restr FTSE 100, yn cyflogi 1,300 o weithwyr mewn dwy ganolfan yn y brifddinas ar hyn o bryd.

Ond mae disgwyl i’w swyddfa yn Kingswood yn Swydd Surrey, sy’n cyflogi 1,700 o weithwyr, gael ei chau.

Byddai hynny’n golygu symud staff i swyddfeydd eraill, gan gynnwys Caerdydd.

Mae’r swyddfa yng Nghaerdydd yn arbenigo mewn pensiynau a buddsoddiadau manwerthu, yn ogystal â chyflogau sy’n uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol o £27,000.

Mae’r cwmni wedi dechrau ymgynghori gydag undeb Uno’r Gweithwyr ynghylch dyfodol y safle yn Kingswood.

Gallai cannoedd o aelodau staff dderbyn amodau di-gyflogi, ond fe fydd mwy na 1,000 yn ceisio symud i swyddfa arall.