Mae cyfrifon ariannol pleidiau gwleidyddol yng ngwledydd Prydain wedi’u cyhoeddi heddiw gan y Comisiwn Etholiadol, ac mae’r ffigyrau’n dangos faint o arian gafodd ei wario yn ystod y flwyddyn hyd at ddiwedd Rhagfyr 2014.

* Y Blaid Lafur oedd wedi gwneud y mwyaf o incwm yn ystod y flwyddyn, gyda bron i £40 miliwn. Fe wariodd y blaid £35m;

* Y Blaid Geidwadol yn ail ar incwm o dros £37m, tra bod y blaid wedi gwario bron i £37m;

* Fe wnaeth y Democratiaid Rhyddfrydol enillion o dros £10m, gan wario £8,854,454 yn ystod 2014;

* Fe gynhyrchodd Plaid Cymru incwm o dros £767,585 tra bod ei gwariant yn £635,757;

* Roedd Plaid Genedlaethol yr Alban (yr SNP) wedi gwneud incwm o dros £7m tra fod ei chostau gwariant fymryn yn fwy na hynny;

* Gwnaeth plaid UKIP incwm sylweddol o dros £6.6m, gan wneud mymryn o golled wrth wario £6.7m.