Clawr cylchgrawn Lol y llynedd
Honiad am gynllwyn gwleidyddol i danseilio cwmni menter yw prif stori’r 50fed rhifyn o’r cylchgrawn dychan a sgandal, Lol.

Mae’n ailadrodd honiadau a rhoi rhagor o fanylion am fethiant cwmni o’r enw Ideoba, a oedd wedi ei sefydlu gan ddau bartner oedd yn cynnwys gwleidydd Plaid Cymru, Adam Price.

Yn ôl erthygl yn y cylchgrawn, y Blaid Lafur oedd wedi atal rhoi benthyciad a allai fod wedi achub y cwmni oherwydd bod Adam Price yn sefyll yn eu herbyn yn etholiadau’r Cynulliad.

‘Gwirion’ meddai’r Llywodraeth

Pan wnaed yr honiadau gynta’ ym mis Mai gan y partner arall, Andrew Auerbach, roedd y Llywodraeth wedi mynnu bod yr honiadau’n “wirion”.

Roedd y Llywodraeth wedi rhoi arian at sefydlu Ideoba yn y lle cynta’ ac roedd y Gweinidog Economi, Edwina Hart, yn rhan o’r lansio.

Honiad Lol yw bod ‘Taffia’ Llafur wedi ymyrryd i rwystro benthyciad pellach. Ond, pan alwodd y Ceidwadwyr am ymchwiliad, fe wfftiodd y Llywodraeth yr honiadau.

Lol – y cefndir

Cwmni Drwg yw enw cyhoeddwyr Lol erbyn ond mae’n cael ei argraffu gan y cyhoeddwyr gwreiddiol, Gwasg y Lolfa.

Fe fydd y wasg yn cyhoeddi llyfr i ddathlu hanner can mlwyddiant y cylchgrawn yn yr hydref.

Fe gafodd ei lansio yn Sir Drefaldwyn, yn Eisteddfod y Drenewydd yn 1965.