Llun fideo o wefan yr atyniad newydd
Fe fydd y morlyn syrffio cynta’ o’i fath yn agor yng Nghymru y penwythnos yma.

Surf Snowdonia – ar hen safle gwaith alwminiwm Dolgarrog yn Nyffryn Conwy – yw’r atyniad antur diweddara’ i agor yn y Gogledd.

Dyma’r lagŵn ewyn cynta’ cyhoeddus sydd heb fod ar lan y môr ac mae’n defnyddio peiriannau i greu tonnau hyd at 2fetr o uchder.

Grant

Roedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi grant o fwy na £4 miliwn tuag at y fenter sy’n cyflogi 100 o bobol – ac 13 o’r rheiny o Ddolgarrog ei hun.

Y nod yw denu 75,000 o ymwelwyr y flwyddyn i’r atyniad sydd hefyd yn cynnwys pwll a lle chwarae meddal i blant, siop a llefydd bwyta.

Mae’r morlyn-gwneud yn 300 metr o hyd ac yn agor fory ar hen safle Alcoa.

Rhan o strategaeth

Mae’r datblygiad yn rhan o strategaeth i gynyddu’r gweithgareddau antur yng Nghymru ac o ddefnyddio hen safleoedd diwydiannol i greu atyniadau twristaidd – mae’r wifren wib yn Nyffryn Ogwen yn enghraifft arall.

Fe fydd y flwyddyn nesa’n cael ei dynodi’n Flwyddyn Antur yng Nghymru yn y diwydiant twristiaeth.

Yn ôl y Dirprwy Weinidog Ken Skates, fe allai’r morlyn ddenu syrffwyr rhyngwladol o bob rhan o’r byd.