LLandudno
Mae Conwy, Powys a Sir Fynwy ymysg yr ardaloedd gorau i dyfu’n hen a mwynhau ymddeoliad hir, iach a diogel.

Dyna gasgliad ymchwil newydd gan gwmni yswiriant Prudential, sydd wedi creu rhestr o’r 20 sir orau yng Nghymru a Lloegr i bensiynwyr fyw.

Siroedd yn ne orllewin Lloegr oedd fwyaf cyffredin ar y rhestr gyda Swydd Dorset, Swydd Gaerloyw, Swydd Wiltshire a Chernyw i gyd ar y rhestr.

Swydd Efrog oedd yr unig sir yng ngogledd Lloegr ar y rhestr – ond mae’r cwmni oedd yn gyfrifol am yr ymchwil wedi gwrthod rhyddhau’r data llawn am nad ydyn nhw eisiau datgelu ble yw’r ardaloedd gwaethaf i ymddeol.

Powys ar y brig

Roedd yr ymchwil yn ystyried ffactorau fel cyfraddau troseddu, gofal iechyd a disgwyliadau oed wrth lunio’r rhestr, gydag ardaloedd gwledig ar y cyfan yn dod i’r brig.

Powys oedd yr uchaf o’r tair sir yng Nghymru ar y rhestr, ond Conwy oedd â’r mwyaf o weithwyr iechyd ar gyfer bob person, ac yn Sir Fynwy yr oedd disgwyl i’r henoed fyw hiraf.

Yn ôl Vince Smith Hughes o Prudential, mae gan bensiynwyr fwy o ryddid a hyblygrwydd ariannol bellach i ddewis ble maen nhw eisiau ymddeol.

“I bobl sydd yn gobeithio cael bywyd cyfforddus wrth ymddeol y ffordd orau o wneud hynny yw arbed cymaint ag y gallwch chi mor gynnar â phosib yn eich bywyd gweithiol,” meddai’r arbenigwr.

“Ond mae materion fel diogelwch ac iechyd yn chwarae rhan bwysig hefyd yn safon bywyd pensiynwyr.”