Llwyn Celyn ger Y Fenni
Bydd Ymddiriedolaeth Landmark yn derbyn grant o £2.5 miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri i adfer adeilad rhestredig o’r 15fed ganrif ger Y Fenni sydd mewn cyflwr gwael, a’i addasu yn llety gwyliau.

Mae  Llwyn Celyn sydd yn y Mynyddoedd Du ym Mannau Brycheiniog yn un o’r ychydig adeiladau sydd wedi goroesi o ddiwedd y 15fed ganrif a bydd apêl newydd yn cael ei lansio i ddod o hyd i’r £385,000 ychwanegol sydd ei angen erbyn y Nadolig, fel y gall y gwaith gychwyn yn gynnar y flwyddyn nesaf.

Bydd y grant yn galluogi Ymddiriedolaeth Landmark i achub ac adfer y prif dŷ er mwyn creu llety gwyliau hunan arlwy fydd ar gael i bawb. Bydd nifer o dai allan hefyd yn cael eu hatgyweirio a’u haddasu’n ganolfannau addysg a dehongli i’w defnyddio gan y gymuned leol a’r cyhoedd yn gyffredinol.

‘Rhyfeddol’

Mae Llwyn Celyn yn cael ei ystyried gan Cadw yn un o’r mwyaf rhyfeddol o’r holl dai canoloesol hwyr a oroesodd yng Nghymru. Ag yntau wedi bod yn dŷ annedd yn ddi-dor ers cael ei adeiladu o gwmpas 1480, prin y mae Llwyn Celyn wedi newid ers gosod llawr yn ei neuadd agored yn yr 17eg ganrif. Mae rhai o’r capanau drysau addurnedig eithriadol a mainc osod yn y neuadd ganolog a fu unwaith yn agored yn enghreifftiau nodedig o brin o’r hyn a oroesodd.

Mae Ymddiriedolaeth Landmark wedi codi bron i £1.3 miliwn gyda chymorth ei chefnogwyr gyda 91% o’r  cyllid wedi’i sicrhau hyd yn hyn, gyda £385,000 ei angen erbyn diwedd Rhagfyr 2015 er mwyn i’r gwaith allu cychwyn ar y safle ar ddechrau 2016.

‘Unigryw’

Croesawodd Dr Anna Keay, Cyfarwyddwraig  Ymddiriedolaeth Landmark yr arian gan Gronfa’r Loteri: “Rydym yn hynod ddiolchgar i i’r Gronfa Loteri ac i gefnogwyr Ymddiriedolaeth Landmark am eu rhoddion hael. Mae adeiladau hanesyddol prin a rhyfeddol o’r math hyn yn unigryw.

“Os nad oes rhywun yn ymyrryd, nid yn unig bydd yr adeiladau prin hyn yn diflannu o’n tirwedd, ond felly hefyd y storïau y mae’r safleoedd hyn yn eu hadrodd am fywydau ein cyndadau. Trwy greu adeilad Landmark newydd, rydym yn sicrhau ei ddyfodol am genedlaethau i ddod.”

Sgiliau traddodiadol

Bydd gwaith yr elusen yn Llwyn Celyn yn gofalu fod sgiliau traddodiadol yn parhau, a’r bwriad yw cynnig prentisiaethau hyfforddiant crefftau trwy gydol y prosiect. Yn dilyn proses drylwyr o waith adfer, bydd y prif adeilad yn Llwyn Celyn yn agor fel canolfan newydd ar gyfer gwyliau byr yn 2018, gan ymuno â chasgliad yr Ymddiriedolaeth Landmark o 195 adeilad hanesyddol arall.

Eglurodd Pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri  Cymru, Richard Bellamy bwysigrwydd y prosiect: “Mae’r prosiect uchelgeisiol yn fater nid yn unig o gadw darn arwyddocaol o hanes Cymru ar ffurf neuadd ganoloesol – mae’n golygu hefyd gwneud y gofod yn adnodd ystyrlon i bobl heddiw.”

Ychwanegodd:  “Yn ogystal â chynnig hwb i dwristiaeth leol, bydd y prosiect yn rhoi mynediad i bobl i’r adeiladau, a chyfleoedd i ddefnyddio’r gwagleoedd i alluogi pobl i ddysgu am dreftadaeth, ennill sgiliau newydd a chefnogi digwyddiadau cymunedol. Rydym yn gyffrous i barhau i weithio gyda’r Ymddiriedolaeth Landmark ar y prosiect arbennig hwn, a gweld y gwahaniaeth a wna pan fydd wedi’i gwblhau.”