Cyhoeddodd cwmni yswiriant Admiral, sydd a’i bencadlys yng Nghaerdydd, eu bod yn ehangu, gyda’r newydd fod 280 o swyddi newydd yn cael eu creu yng Nghasnewydd, Caerdydd ac Abertawe.

Bydd y swyddi hyn wedi eu lleoli yn yr adrannau arwerthu, ceisiadau yswiriant ac o fewn ei gwmni cyfreithiol BDE.

Bydd y cwmni yn cyflogi 130 o bobl yn ei swyddfa yng Nghasnewydd gyda 50 o swyddi ychwanegol yng Nghaerdydd a 100 yn Abertawe.

Mae’r ymgyrch i recriwtio wedi dechrau yng Nghasnewydd gyda phenodiadau eraill yn digwydd yn y misoedd nesaf.