Mae Tata Steel yn bwriadu cael gwared a 720 o swyddi, yn ei ffatri yn Rotherham yn bennaf, cyhoeddodd y cwmni dur heddiw.

Dywedodd y cwmni mewn datganiad fod y busnes wedi bod yn tanberfformio yn ddiweddar oherwydd cryfder y bunt.

Ychwanegodd y datganiad fod pris trydan uwch hefyd i’w feio am y toriadau – mae’r prisiau ddwywaith yn fwy na’u cystadleuwyr ar gyfandir Ewrop, yn ôl y cwmni.

Mae tua  7,000 o weithwyr dur Tata yng Nghymru – gan gynnwys ym Mhort Talbot ac yn Shotton.

Dywedodd Tata Steel ei fod wedi “nodi 720 o swyddi a fydd o bosibl yn diflannu” ond y byddan nhw’n gweithio gydag undebau i adleoli gweithwyr a lleihau nifer y diswyddiadau gorfodol.

Meddai Karl Koehler, prif weithredwr gweithrediadau Ewropeaidd Tata Steel: “Rwy’n sylweddoli pa mor anodd yw’r newyddion hyn i’r rhai sy’n cael eu heffeithio, ond rwy hefyd yn hynod ymwybodol o’n cyfrifoldeb tuag at barhad parhaus y busnes hwn a fydd yn parhau i gyflogi tua 1,500 o bobl yn ne Swydd Efrog.”