Mae Nwy Prydain wedi cyhoeddi eu bod nhw’n gostwng prisiau nwy i gwsmeriaid o 5%.
Dywed y cwmni y bydd yr ail ostyngiad o fewn chwe mis yn golygu gostyngiad o £35 mewn biliau ynni blynyddol.
Mae’r ail ostyngiad yn golygu bod biliau blynyddol wedi gostwng £72 dros y flwyddyn.
Bydd y gostyngiad yn cael ei gyflwyno ar Awst 27.
Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni fod y gostyngiad yn adlewyrchu costau is o fewn y diwydiant.
“Mae Nwy Prydain yn ymroddedig i gynnig cynnyrch am bris cystadleuol ac mae’r gostyngiad pris rydym yn ei gyhoeddi heddiw’n adlewyrchu hynny.”