Mae lefelau gwerthu ac allforio nwyddau o Brydain wedi syrthio i’w lefel isaf ers bron i bum mlynedd, yn ôl yr ystadegau swyddogol.

Mae’r ffigyrau yn esbonio’r lleihad diweddar yn nhwf yr economi, yn ôl arbenigwyr.

Roedd diffyg o £7.5 biliwn yng ngwerthiant chwarter cyntaf y flwyddyn – £1.5 biliwn yn uwch na’r chwarter olaf o 2014.

Credir mai’r cwymp yng ngwerthiant tanwydd sydd wedi effeithio fwyaf ar y diffyg.

Wrth ddarogan y misoedd nesaf, dywedodd prif economydd Capital Economics, Vicky Redwood: “Nid yw hyn yn llunio darlun calonogol iawn i’r dyfodol agos o ran allforio.

“Yn wir, mae parth yr ewro gwan a chryfder y bunt yn debygol o rwystro cynnydd yn y gwerthiant ymhellach.”